Croeso i Wefân yr Ofalaeth
Hanes Eglwys Penybryn
Daw’r canlynol o law Mr Eilir Lewis. Gwelir ran o lythyr hir sydd yn dilyn datblygiadau’r achos cynnar gyda manyldeb. Y mae trefn y tecst - yn cynnwys y sillafu - yn dilyn y gwreiddiol.
“Dechreuwyd
cynnal cyfarfodydd yng nghymdogaeth y Bridell yn y flwyddyn 1790. Y ddau
gapel agosaf i’r ardal hon yr adeg hynny oedd Blaenwaun ag Ebenezer, ac
aelodau o’r eglwysi hyn fu yn gyfrwng i gychwyn yr achos ym Mhen Y Bryn.
Cynhaliwyd y cyfarfodydd cyntaf yn Nhreleddyn isaf , neu Tiriet yn
nhŷ
John
Michael, un o ddiaconiaid Ebeneser, a gweinidog Ebenezer oedd yn cynnal y
cwrdd hwn unwaith
bob
mis. Cynhaliwyd cyfarfodydd eraill yn Nhwcsiencyn, yn nhŷ Evan Lloyd un o
bregethwyr Ebeneser. Cwrdd Blaenwaun oedd hwn a phregethwyr Blaenwaun yn
ei gynnal. Symudodd Evan Lloyd o’r ardal a bu’r symudiad hwn yn achos o
symud y cyfarfod o Cnwcsiencyn i Penfeidr ar dir Ffynnoncoranau. Dywed
hanes nad oedd y rhai oedd yn byw yno yn aelodau, ac mae drwy garedigrwydd
ac ewyllys da teulu Ffynnoncoranau y cafwyd caniatâd i gynnal y
cyfarfodydd yno unwaith y mis. Bydau’r fath dorfeydd yn ymegnïol i wrando
fel y gorfyddi i bregethwyr bregethi oddi allan yn fynych, ac yr oedd hyn
yn anghyfleus iddynt hwy ac i’r gwrandawyr, ac felly awyddau byd ac eglwys
am dy addoliad. Penodwyd ar Ben Y Bryn fel lle tra addas, ac anodd fuasai
cael man mwy cyfleus oblegid mai yma bedair ffordd yn cyfarfod at i
gilydd, ac felly nid oes achos mynd drwy faes na gwinllan neb i gyrraedd y
lle hwn.”
Dechreuwyd adeiladu capel Pen Y Bryn yn y flwyddyn 1818 ar
Fai 14eg, ac agorwyd am y tro cyntaf flwyddyn yn ddiweddarach, ar Fai
13eg, 1819. Ty â grisiau o’r tu allan oedd yr adeilad cyntaf. Rhoddwyd y
tir ar gyfer yr adeiladu gan Thomas Williams, Glanpwllafon, ar les o 5,000
o flynyddoedd a chafwyd hawl hefyd i fedyddio mewn cae o’r enw Parcgwyn,
ger bont Glanpwllafon. Y gyntaf i gael ei bedyddio yno ar Fehefin 27ain,
1819, oedd Elizabeth Williams, gwraig perchennog y tir, a hithau yn 80
mlwydd oed. yn y flwyddyn ganlynol, cyflwynodd Thomas Williams gwpanau
Cymundeb i’r capel hefyd. Bu’r eglwys yn gangen o gapel Ebeneser hyd 1833,
ac ar yr adeg honno cafodd ei derbyn yn aelod o’r Gymanfa a gynhaliwyd yn
Nhrefdraeth. Yr oedd yr eglwys o dan weinidogaeth y Parch W. R. Davies, a
rhif yr aelodau oedd 65.
Yn dilyn ymadawiad y Parch W. R. Davies yn 1838, ac wedi
amser hir o ddibynnu ar garedigrwydd eglwysi eraill, rhoddodd Pen Y Bryn
alwad i’r Parchg Jesse Jones ym mis Gorffennaf 1841. Rhyw ddwy flynedd yn
unig y bu yn yr ardal, ac ar ôl cyfnod pellach o fod heb weinidog,
ailymunodd Pen Y Bryn gydag Ebeneser o dan weinidogaeth y Parch John
Lloyd. Ymadawodd a’r ardal yn 1848, a dilynwyd ef gan y Parch Morris
Evans, a oedd yn weinidog i Ben Y Bryn a Phenuel, Cilgerran. Ei gyflog ef
oedd £25 y flwyddyn. Golygai hyn rhyw goron yr wythnos i bob eglwys.
O dan ei weinidogaeth ef, cynhaliwyd Cymanfa’r Sir am y
tro cyntaf ym Mhen Y Bryn, ar 31ain o Fai, 1853. Yn ôl y cofnodion,
“cafwyd cyfarfodydd hyfryd a dymunol”, a hyderwyd, “y byddai i fendith y
nef ddilyn y gwirioneddau a draddodwyd.”
Y gweinidog nesaf i’w ordeinio oedd y Parch Simon Parry
Jones, o Goleg Hwlffordd, ar y 29ain o Awst, 1855. Dyma’r tro cyntaf i’r
eglwys gael gweinidog iddi hi ei hun. Yn anffodus, blinwyd ef gan afiechyd
a bu farw ar yr 20fed o Fawrth, 1859. Claddwyd ef ym mynwent Pen Y Bryn.
Yn 1860, ailymunodd Pen Y Bryn a Phenuel, Cilgerran, o dan
weinidogaeth y Parch Thomas Jones. Rhoddodd y Parch Thomas Jones y
weinidogaeth i fyny yn 1866 ac ymddeolodd oddi wrth y Bedyddwyr i’r Eglwys
Wladol. Cofnodwyd mai rhif yr aelodau y pryd hwnnw oedd 130, a bod 70 o
ddisgyblion a 13 o athrawon yn yr Ysgol Sabothol. O ystyried nifer yr
aelodau, hawdd yw ddeall fod y capel yn orlawn ar y Sul, a phenderfynwyd
adeiladu capel newydd.
Dechreuwyd ar y gwaith ym mis Mawrth, 1869. Yr oedd y
gwaith adeiladu dan ofal David Davies, Glanpwllafon, Saer Coed. Cyn i’r
gwaith cael ei gwblhau, ordeiniwyd George Griffiths yn weinidog ym Mhen Y
Bryn a Phenuel, Cilgerran yn 1871. Agorwyd y capel newydd ar ddydd
Nadolig, 1871, a chynhaliwyd gwyl de i ddathlu’r achlysur . Yn yr hwyr,
cynhaliwyd Cwrdd Llenyddol, lle darllenwyd cyfrifon y costau adeiladu
allan. Roedd cyfanswm y costau yn £400/7/6, a thalwyd y cyfan cyn dydd yr
agoriad.
Defnyddiwyd cerrig yr hen gapel i adeiladu’r festri. Hen
bulpud Bethania, Aberteifi oedd y pulpud newydd. Y briodas gyntaf i gymryd
lle yn yr adeilad newydd oedd priodas Nathan George, Ffynoncoranau a
Hannah Evans, Penralltcadwgan.
Yn 1881 bu’r trip Ysgol Sul cyntaf i Boppit. Cludwyd y
plant gan ddyn o’r enw John Jenkins “Y Wagen”. Ef oedd yn cludo bagiau
teithwyr y rheilffordd o Grymych i Aberteifi yn ei wagen. Cludwyd gweddill
yr aelodau mewn amrywiaeth o geirt y gymdogaeth. Yn y cyfnod hwn roedd y
capel yn enwog am ei gôr canu. Arweinydd y côr oedd Thomas Morris, Broyan,
a chynhaliwyd cyngherddau mewn gwahanol lefydd. Roedd pedwarawd poblogaidd
yn eu plith hefyd - sef Thomas Morris, Nathan George a dwy ferch o’r Gaer.
Dechreuodd y Parch William Cynon Evans ei weinidogaeth ym
Mhen Y Bryn a Phenuel yn 1885. Y swyddogion ar y pryd oedd John James
(Ysgrifennydd), John Gwyon (Trysorydd) a William Lewis (Arweinydd y Gan).
Roedd gan y gweinidog gryn ddiddordeb mewn cerddoriaeth, a chadwai
ddosbarthiadau mewn gwahanol fannau. Dywedir ei fod wedi llwyddo i godi
safon gerddorol cymdogaeth gyfan drwy ei ymdrechion. Cynhaliwyd Cymanfa
Ganu y cylch ym Mhen Y
Bryn
ar Fedi 22ain , 1889. Hon oedd y drydedd gymanfa yn y cylch, y gyntaf i’w
chynnal yng nghapel Pen Y Bryn, a’r gyntaf i gyhoeddi rhaglen. Y Parch
William Cynon Evans oedd arweinydd y bum Gymanfa gyntaf gan nad oedd organ
i’w chael yn y capeli.
Ymadawodd
y gweinidog â’r ardal yn 1892. Bu’r Parch Edwin
Watkins yng wasanaethu rhwng 1896 a 1901, a’r Parch Glyndwr Watkins yng
wasanaethu rhwng 1903 a 1906. Ef oedd y gweinidog yn ystod y Diwygiad
1904-1905.
Ym
mis Hydref 1906, cafwyd organ am y tro cyntaf. Ar ddydd Calan 1907,
cynhaliwyd cwrdd cystadleuol, adrodd a chanu, gan aelodau’r Ysgol Sul, er
mwyn codi arian tuag at gostau’r organ. Yn dilyn cwrdd tebyg, yn Ysgol Sul
Bethlehem, Trefdraeth a Hermon, Abergwaun, casglwyd £10/10/ - i drysorfa’r
organ.
Derbyniodd y Parch John Thomas alwad i weinidogaethu ar yr
eglwys yn 1910. Yn ystod ei gyfnod ef, sefydlwyd Cymdeithas Y Bobl Ifanc,
yn nhymor y gaeaf 1911-1912. Bu’r Gymdeithas yn llewyrchus am nifer fawr o
flynyddoedd. Gadawodd y gweinidog yn 1927. Blwyddyn ar ôl hyn, cafwyd
golau trydan i’r capel. Costiodd y gwaith tua £500 a chliriwyd y costau
cyn dydd yr agoriad.
Yn 1930, daeth y Parch A. H. Rees i’r ardal ar ol treulio
cyfnod byr yn y Gogledd. Un o
Gwmaman, Aberdâr oedd Mr Rees, a phriodol, felly, oedd y gwahoddiad a
estynnwyd i’r Parch S. J. Leeke, gweinidog Capel Seion, Cwmaman, i gymryd
rhan yn y cyfarfodydd sefydlu a
gynhaliwyd
ym mis Tachwedd o’r flwyddyn honno. Ymgartrefodd Mr a Mrs Rees yng
Nghilgerran lle magwyd eu tair merch, a bu Mr Rees yn weinidog ar Eglwysi
Pen Y Bryn a Phenuel am 36 o flynyddoedd.
Yn 1969, dechreuodd y Parch T. R. Jones ei weinidogaeth ym
Mhen Y Bryn, gan uno Pen Y Bryn unwaith eto gyda Chapel
Ebeneser
o dan yr un gweinidog. Cynhaliwyd y cyrddau sefydlu ym mis Medi, 1969 a
chyrddau dathlu ei chwarter canrif yn yr eglwys ym mis Gorffenaf, 1994.
Daeth y gweinidog yn Llywydd ar Undeb Bedyddwyr Cymru yn 1997.
Yn ystod gweinidogaeth y Parch T. R. Jones, llwyddodd y
chwaer ddawnus Glenys Lewis yn arholiadau’r Undeb, ac y mae galw mawr am
ei gwasanaeth ym mhulpudau y broydd hyn.
[Ddaw’r hanes uchod allan o waith Gaynor Jenkins yn
Lawlyfr Undeb Bedyddwyr Cymru, 27ain Gorffennaf, 1997.]
Mewn pwyllgor, a gynhaliwyd yng
Nghapel Bethabara, nos Lun, Chwefror 7ed 2005, ffurfiwyd gofalaeth newydd
o bedair eglwys - sef Bethabara, Blaenffos, Pen Y Bryn a Seion, Crymych.
Dangosodd pawb a oedd yn bresennol, yn unfrydol,
trwy bleidlais agored, eu bod nhw’n awyddus i symud ymlaen, a
phenderfynwyd y noson honno, i alw gweinidog.
Trefnwyd oedfa undebol arbennig i nodi’r uno a bodolaeth
yr ofalaeth newydd, gogyfer â Ionawr 8fed 2006, gyda’r diweddar Barchedig
T.R.Jones yn pregethu. Cafwyd oedfa fendithiol a chalonogol, gyda neges y
bregeth yn bwrpasol i’r achlysur.
Estynnwyd gwahoddiad i Roger Thomas Morgan, a oedd ar y
pryd, yn fyfyriwr yng Nghaerdydd,
i bregethu yn y cylch. Daeth y Parch a’i briod Sheila yn ystod mis Awst
2006, a phregethu yng Nghapel Seion, Crymych, ond yr oedd broses o sefydlu
y Parch wedi dechrau lan yn ardal y cymoedd.
Profodd y flwyddyn 2008, yn fwy calonogol - roedd
aelodau’r Ofalaeth yn dal yn awyddus iawn i gael gweinidogaeth, ac yn
gweddïo’n daer am arweiniad a chymorth. Dyma enw’r Parchedig Roger Thomas
Morgan yn dod i’r golwg eto yn ystod cyfarfod mis Ebrill, pan hysbyswyd yr
aelodau bod Mr Emrys Thomas, Blaenffos, wedi sicrhau ei wasanaeth am yr
ail dro, ar gyfer ddydd Sul, Mehefin 22ain. (2008). Braf yw gallu nodi bod
pawb wedi eu boddloni gyda’r gwasanaeth. Penderfynwyd galw y Parch Roger
Thomas Morgan i arwain y pedair eglwys. Heb wastraffu dim amser,
sgrifennwyd y llythyr, a phostiwyd yr amlen yn cynnwys yr alwad, gyda
stamp dosbarth cyntaf arni. Yn cyd-fynd â’r llythyr pwysig hwnnw, oedd ein
gobeithion a’n gweddïau ninne fel gofalaeth.
Ac ar ddydd Sul, ynghanol mis Awst, 2008, estynnwyd
gwahoddiad i’r Parchedig Roger ddod i Eglwys Blaenffos, i weinyddu’r
ordinhad o fedydd. Cafwyd oedfa deimladwy ac effeithiol iawn, ac yn sicr,
teimlwyd presenoldeb Duw. Yn goron ar weithgareddau’r bore hwnnw, fe
wireddwyd breuddwyd aelodau’r Ofalaeth, pan wnaeth Y Parch Roger Morgan,
ar lafar, dderbyn yr alwad yn gadarnhaol, i ddod atom i’n bugeilio yn yr
Arglwydd Iesu Grist.
Penderfynwyd cyhoeddi’r newydd
da mewn oedfa undebol, y Sul canlynol, a chawsom y fraint o gynnal
pwyllgor yng nghwmni Roger a Sheila, a’r Parch. Peter Thomas, mis Medi,
pan fynegodd Ysgrifennydd yr Undeb ei falchder am drefniant cylch ein
Heglwysi i’r dyfodol, a’i fod yn ymfalchïo bod yr alwad wedi’i hateb yn
gadarnhaol. Dechreuodd y Parch Roger Thomas Morgan ar ei weinidogaeth ym
Mhen Y Bryn a’r cylch, ddiwedd Hydref.